President: The Lord Aberdare
Vice Presidents: Tom Evans, John Mear and Ken Collins
CROESO I WEFAN ‘CYMDEITHAS HANES CWM CYNON’
SWYDDOGION Y GYMDEITHAS:
Llywydd: Arglwydd Aberdâr.
Is-lywyddion: Tom Evans
John F. Mear
Ken Collins
Ysgrifennydd: Heb ei lenwi
AM Y GYMDEITHAS:
Sefydlwyd y Gymdeithas ym 1971 i hyrwyddo astudiaeth hanes Cwm
Cynon; i gasglu ac arddangos tystiolaeth o’r hanes hwnnw ac i gyhoeddi
gwaith ymchwil iddo er budd trigolion yr ardal a phawb fydd yn
ymddiddori yn ei gorffennol.
Ei Llywydd Anrhydeddus yw’r pumed Barwn Aberdâr. Ei his-
lywyddion (yn ôl trefn eu hethol) yw Tom Evans, Abernant; John Mear,
Y Gadlys a Ken Collins, Godreaman. Rhoddodd y tri wasanaeth neilltuol
i’r Gymdeithas o fwy na thrideg blwyddyn yr un. Etholir y swyddogion
eraill a’r pwyllgor gwaith fesul blwyddyn.
Mae’r Gymdeithas yn cyfarfod ar drydedd nos Iau pob mis rhwng Medi
a Mehefin. Weithiau, cynhelir cyfarfod cymdeithasol yng Ngorffennaf.
Ni chynhelir cyfarfod ym mis Awst.
Cynhelir y cyfarfodydd misol yn festri Capel Green Street, Aberdâr am
7.15 pm (oni threfnir fel arall). Mae’r eglwys cyferbyn â Llyfrgell Ganol y
dre ac mae digon o le parcio (am ddim ar ôl 6.00 yr hwyr) gerllaw. Y tâl
aelodaeth blynyddol yw £6-00 (neu £3-00 i’r sawl sy’n byw y tu allan i’r
ardal). Croesewir aelodau newydd yn gynnes bob amser.
Gwahoddir siaradwr pob mis i annerch y Gymdeithas ar destun
hanesyddol, boed hynny’n bwnc lleol neu’n bwnc o ddiddordeb
ehangach. Cyhoeddir Rhaglen Fisol y cyfarfodydd pob blwyddyn ym
Medi. Mae hon ar gael i bob aelod ac arlein (gw. y dudalen hafan).
Cynhelir ein cyfarfodydd yn Saesneg, ond cydnabyddir y Gymraeg ar
bob cyfle posib a chroesewir ymholiadau ynddi. Bydd y Gymdeithas yn
gwneud ei gorau bob tro i ymateb yn Gymraeg i ymholiad o’r fath.
Cyhoeddir ers 1984 gylchlythyr chwarterol o’r enw Hanes. Fe’i dosberthir
am ddim i’r aelodau a chodir tâl bychan i’r cyhoedd. Enw prif
gyhoeddiad y Gymdeithas yw Old Aberdare ac fe’i cyhoeddir yn
achlysurol. Erbyn hyn (haf, 2008), cyrhaeddodd ei ddegfed rhifyn. Ceir
manylion llawn cyhoeddiadau eraill y Gymdeithas wrth ddychwelyd at
y dudalen hafan a gwasgu’r botwm priodol yno.
CYSYLLTU Â’R GYMDEITHAS:
Croesewir ymholiadau ynghylch aelodaeth a gweithgaredd y
Gymdeithas. Gellir cysylltu â hi wrth ddychwelyd at y dudalen hafan.
BRASLUN O HANES CWM CYNON:
Mae i Gwm Cynon hanes hynod sy’n rhan hanfodol o hanes Cymru
ar hyd yr oesau. Ni ellir cynnig yma ond crynodeb o uchelfannau’r
hanes hwnnw. Er enghraifft:
- tua 800 C.C: gollyngwyd rhai o greiriau haearn ac efydd pwysicaf
Cymru i ddyfroedd Llyn Fawr ger Y Rugos, i’w hail-ddarganfod
ym 1910-11.
- tua 75 O.C: sefydlwyd caer Rufeinig ar Dwyn-y-Briddallt, yn uchel ar
y grib rhwng Cwmaman a’r Rhondda Fach.
- tua 600 O.C: sefydlwyd Eglwys Wynno, hen ganolfan Grisnogol
plwyf canoloesol Llanwynno (ardaloedd Aberpennar ac Ynys-y-bwl).
- tua’r un pryd: sefydlwyd Eglwys Gynog, hen ganolfan grefyddol
plwyf canoloesol Penderyn (ardaloedd Penderyn, Cwm-taf a
rhannau helaeth o Hirwaun).
- tua 1190: sefydlwyd Capel Anwes Ioan Fedyddiwr ym mhentref
Aberdâr, a dyfodd yn eglwys y plwyf wreiddiol yr ardal.
- 1203: ceir y sôn cyntaf am fodolaeth Aberdâr (yn un o ddogfenni
Abaty Margam).
- 1570: mae cofnodion maenorol ieirll Penfro yn dechrau crybwyll
manylion yr ystadau a’r ffermydd lleol.
- tua 1600: canodd bardd anhysbys o’r fro un o gerddi rhydd Cymraeg
pwysicaf y cyfnod modern cynnar, Coed Glyn Cynon, gan grybwyll
dyfodiad y diwydiant haearn i gymoedd de Cymru a dechrau
difwyno’u glendid naturiol.
- 1663: ceir cyfeiriad mewn dogfen gyfreithiol at gloddio am lo (ar
raddfa fechan ar y pryd) yn ardal Cwm-hwnt, ger Pen-y-waun.
- 1738: ceir sôn am y person cyntaf i gael ei ladd dan ddaear pan fu
farw Daniel Simon dan gwymp y to yn lefel Bryn Defaid, Llwytgoed.
- 1751: sefydlwyd yr Hen Dy Cwrdd, capel anghydffurfiol hynaf y
Cwm, yn Heol-y-felin (Trecynon) allan o hen gynulleidfa
ymneilltuol Blaen-cannaid (c.1650) a Chwm-y-glo (1689).
- 1757: sefydlwyd gwaith-haearn Hirwaun, ac yna gweithfeydd
Llwydcoed (1799); Y Gadlys (1827) ac Aberaman (1845).
- 1772-96: bu Edward Evan, gwr y defnyddiodd Iolo Morganwg ei
enw i gyfiawnhau creu Gorsedd Beirdd Ynys Brydain (1789), yn
weinidog yr Hen Dy Cwrdd, a Tomos Glyn Cothi (fu yn y carchar
am foli’r Chwyldro Ffrengig) yn olynydd iddo rhwng 1811-33.
- 1790: torrwyd Camlas Aberdâr fel cangen o Gamlas Morgannwg (a
redai rhwng Caerdydd a Merthyr Tudful).
- 1793: cafwyd deddf seneddol yn caniatáu creu ffordd dyrnpeg
newydd i fyny Cwm Cynon at Aberdâr a thu hwnt.
- tua 1825: ceir sôn am lofa’r Gadlys (ar ffurf lefelau a drifftiau bychain
mae’n debyg) a ddatblygwyd gan Matthew Wayne (sylfaenydd
gwaith haearn Y Gadlys – gw. dan 1757).
- 1831: dechreuodd Terfysgoedd Merthyr gyda gweithwyr haearn
Abernant yn croesi’r mynydd i Ferthyr a gweithwyr Hirwaun yn
codi’r Faner Goch (am y tro cyntaf ym Mhrydain, fe gredir) cyn
gorymdeithio yno; un o arweinwyr blaenaf y Terfysgoedd oedd
Lewis Lewis (Lewsyn yr Heliwr) o ardal Penderyn.
- 1834: Crëwyd ‘Undeb Deddf y Tlodion Merthyr Tydfil’ (gan gynnwys
Cwm Cynon) a Bwrdd Gwarcheidwaid i’w reoli a Thloty (ym Merthyr)
i gartrefu amddifaid y fro. Dyma darddiad llywodraeth leol yr oes
fodern yng Nghwm Cynon a thu hwnt.
- 1837: suddwyd pwll glo dwfn cyntaf y Cwm (ac un o’r cynharaf yng
Nghymru) yn Abernant-y-groes, Cwmbach, gan Matthew a Thomas
Wayne (perchnogion gwaith-haearn Y Gadlys).
- 1840: suddodd Thomas Powell o’r Gaer, Casnewydd bwll-glo dwfn
Tir-ffounder (neu Hen Ddyffryn) Cwmbach, gan osod seiliau cwmni
mwyaf maes-glo de Cymru ddydd a ddaw, sef Powell Duffryn (sic).
- 1843: suddwyd pyllau dwfn arloesol eraill gan William Thomas
(mab Robert a Lucy Thomas) yn Llety-siencyn; gan David Davis ym
Mlaen-gwawr; a Thomas Powell, Y Gaer, yn Middle Dyffryn (rhwng
gwaelod Cwmbach a Chwmpennar).
- 1844: suddwyd pwll dwfn arall o’r enw Upper Dyffryn (nid nepell o
Dir-ffounder) yng Nghwmbach gan Thomas Powell, Y Gaer,
- 1845: suddodd Crawshay Bailey bwll glo dwfn Aberaman; suddodd
David Williams (Alaw Goch) bwll-glo dwfn Ynys-cynon. O hyn
ymlaen tan tua’r 1880au agorwyd nifer helaeth o byllau glo dwfn a
lefelau llai trwy’r Cwm i gyd (gw. Cynon Coal, a gyhoeddwyd gan y
Gymdeithas ym 2001 am fanylion llawnach).
- 1846: agorwyd Rheilffordd Aberdâr fel cangen (mwy neu lai) o’r Taff
Vale Railway rhwng Caerdydd a Merthyr Tudful; dyma’r rheilffordd
gyntaf i fyny Cwm Cynon tuag at Aberdâr.
- 1851: agorwyd y Vale of Neath Railway o gyfeiriad Abertawe mor bell
ag Aberdâr ac o hynny ymlaen i Ferthyr.
- 1853: cyhoeddwyd Adroddiad T.W. Rammell i gyflwr iechyd trigolion
plwyf Aberdâr o ganlyniad i’r geri marwol fu ar led yno ym 1849-50.
- 1854: sefydlwyd Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Aberdâr o ganylniad i dwf
yn niwydiant a phoblogaeth yr ardal; dyma’r cam pwysig nesaf wrth
greu fframwaith o lywodraeth leol seciwlar a modern yn y fro.
- 1854: cyhoeddwyd Gardd Aberdâr, sy’n cynnwys ysgrifau hanesyddol
cyntaf y fro, gan nodi gwrthdaro’r hen fyd amaethyddol â’r oes
ddiwydiannol newydd; fe’i dilynwyd gan Llanwynno (1888) a Hanes
Penderyn (1905 a 1922).
- tua 1855: dyma gychwyn cyfnod pan fu Aberdâr yn un o brif
ganolfannau argraffu Cymru (adeg a barodd tan 1934 a thranc
Tarian-y-Gweithiwr, papur wythnosol Cymraeg olaf de Cymru).
- 1856: cwblhawyd Rheilffordd Dâr-Aman fel cangen o’r V.N.R.
- 1857: cafwyd Deddf Amgau Comin Hiwaun gan osod rhannau helaeth
o’r hen gomin o’r neilltu at greu Mynwent Gyhoeddus Aberdâr dan ofal
Bwrdd Claddu newydd; agrowyd y fynwent yr un flwyddyn.
- 1859: cynhaliwyd y Gymanfa Ganu gyntaf (fel y daethom i’w ‘nabod)
yn y Temperance Hall a chapel Bethania, Aberdâr).
- 1861: cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gydnabyddedig gyntaf yn
Neuadd y Farchnad, Aberdâr dan nawdd David Williams (Alaw Goch),
perchennog pyllau Ynys-cynon, Treaman, Merthyr-Dâr a DeepDyffryn).
Daeth yr Eisteddfod Genedlaethol yma eto ym 1885 a 1956.
- 1865: hwyliodd y Mimosa o Lerpwl i Batagonia mewn ymgais i
sefydlu gweriniaeth annibynol Gymraeg yn hemisffêr y de gyda
bron i 40% o’r fintai’n hanu o Gwm Cynon a Merthyr Tudful.
- 1867: crëwyd y Bwrdd Iechyd cyntaf ar gyfer Aberpennar yn benodol.
- 1868: etholwyd Henry Richard yn aelod seneddol Rhyddfrydol
Aberdâr a Merthyr o’i enwebu yn Aberdâr.
- 1869: agrowyd Parc Cyhoeddus Aberdâr dros rannau o hen gomin
Hirwaun.
- 1871-72: sefydlwyd Bwrdd Addysg Aberdâr: cam pwysig arall yn
natblygiad llywodraeth leol yr ardal.
- 1872-73: aeth Griffith Rhys Jones (Caradog) â Chôr Mawr Deheudir
Cymru i’r Palas Grisial yn Llundain, gan ddechrau’r broses araf o
adennill hunan-barch i’r Cymry yn dilyn Brâd y Llyfrau Gleision (1842)
ac oes o wawdio’u hiaith a’u cymeriad.
- 1874-75: cafwyd anghydfod mawr, a streic hir a chaled yn yr ardal a
roddodd hwb i dwf undebaeth llafur.
- 1888-95: bu Henry Austin Bruce (y Barwn Aberdâr cyntaf) yn llywio
pwyllgorau a arweiniodd at sefydlu system addysg ganolradd Cymru
(1889) a Phrifysgol Cymru (1895). Ef oedd ei changhellor cyntaf.
- 1895: enillodd Arthur Linton, Aberaman, bencampwriaeth y byd
mewn seiclo.
- 1896: crëwyd dau gyngor tref i weinyddu llywodraeth leol: y naill yn
Aberdâr (Abercwmboi i Hirwaun) a’r llall yn Aberpennar (Glyn-boi
hyd at Ynys-y-bwl.
- 1898: cafwyd streic galed arall ar draws y maes glo a roddodd fod i’r
South Wales Miners’ Federation.
- 1900: etholwyd Keir Hardie fel aelod seneddol parhaol cyntaf y Blaid
Lafur ym Mhrydain dros ardaloedd Aberdâr a Merthyr.
- 1905: sgoriwyd y cais a enillodd y gêm ryngwladol enwog rhwng
Cymru a Seland Newydd yng Nghaerdydd gan (Dr) Teddy Morgan
a anwyd yn Abernant.
- 1910: cyfnod y Block Strike a therfysgoedd ymysg y glöwyr yn lleol
(yn arbennig yn ardal Aberaman).
- 1922: sefydlwyd cangen gyntaf Urdd Gobaith Cymru yn Abercynon.
- 1926: cyfnod y Streic Gyffredinol (a barodd am wythnos) a streic y
glöwyr (a barodd am fisoedd lawer); dyma ddechrau cyfnod o
ddiweithdra, cyni ac ymfudo mawr yn hanes maes-glo de Cymru.
- 1928: sefydlwyd cangen gyntaf Plaid Cymru y tu allan i Sir Gaernarfon
yn festri capel Bethesda, Abercwmboi.
- 1930au: y Dirwasgiad Mawr ym maes-glo’r de.
- 1938: dyfodiad ffatri Aberdare Cables i Drecynon fel cychwyn proses i
ddargyfeirio cyflogaeth yr ardal (a mannau tebyg yn ne Cymru)
oddi wrth y diwydiant glo.
- 1947: gwladolwyd y diwydiant glo a dechreuodd ei grebachu hir
nes bod un pwll glo dwfn ar ôl yng Nghymru erbyn 1995, sef pwll Y
Twr, Hirwaun (gw. 2008).
- 1949: sefydlwyd Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr yng Nghwmdâr: yn
un o dair ysgol o’r fath a sefydlwyd y flwyddyn honno yn dilyn
sefydlu’r gyntaf yn Llanelli ym 1947; dyma’r tro cyntaf i’r Gymraeg
gael ei defnyddio fel cyfrwng swyddogol addysg ers cyn 1536.
- 1950: ysgrifenwyd Awdl Foliant y Glöwr, un o awdlau enwocaf a
mwyaf poblogaidd yr 20G gan y Parch. Gwilym Tilsley tra’n
weinidog yn Aberdâr.
- 1965: cauwyd pwll glo Fforchaman, Cwmaman: y pwll dwfn olaf i
fod ar waith o fewn hen blwyf Aberdâr.
- 1974: diddymwyd cynghorau tref Aberdâr ac Aberpennar gan greu
awdurdod unedig, sef Cyngor Bwrdeisdref Cwm Cynon.
- 1974: streic fawr ymysg glöwyr yr ardal a’r maes glo.
- 1984-85: streic fawr olaf y glöwyr, yn lleol a thrwy Brydain, yn
argoeli bod cyfnod pwysig yn hanes diwydiannol yr ardal a’r wlad
yn dirwyn i ben. .
- 1988: cauwyd pwll glo Abercynon: y pwll dwfn olaf i fod ar waith o fewn hen blwyf Llanwynno.
- 1996: diddymwyd Cyngor Bwrdeisdref Cwm Cynon gan greu
awdurdod unol (tref a sir) Cyngor Rhondda Cynon Taf; dyma’r tro
cyntaf mewn mwy na chanrif i Gwm Cynon fethu â bod yn ganolfan
llywodraeth leol.
- 2008: cauwyd pwll glo Y Twr, Hirwaun: pwll glo dwfn olaf Cwm
Cynon a Chymru gyfan.
dld/gwefan/09.08
Cynon Valley history Society is a Registered Charity. Charity No. 51014.
All information Copyright Cynon Valley History Society
Designed and Developed by justdigitaldesign.co.uk